green gathering - cymraeg

gŵyl sy’n fwy na hwyl a sbri

A’i pŵeru gan wynt, haul a phobol

1-4 Awst, Cas-gwent
Pedwar diwrnod o fywyd oddi ar y grid mewn amgylchedd o harddwch naturiol eithriadol.

Mater o chwaeth bersonol yw adloniant, a mae cerddoriaeth a perfformiadau i siwtio ystod eang o flasau ar ein llwyfannau blwyddyn yma. Ond mae lawer fwy i’ch temptio yn Green Gathering. Darllenwch ymlaen…

Mae’n fraint gallu ddeud bod Green Gathering yn defnyddio ynni oddi-ar-y-grid i bŵeru bob llwyfan a chaffi, does ‘run generadur ar y safle. Gall weld engreifftiau niferus o dechnoleg amgen yn yr ŵyl.  Yn yr Hwb Resource (injan tân dim llai!) mae lyfrgell ac arddangosfa egni solar ynghyd a gweithdai ar gyfer plant mewn adnoddau adnewyddadwy. Mae melin wynt traddodiadol o Wlad Groeg I’w weld, a hefyd poptai solar a sawl fath o stôf roced – yn fyr, Green Gathering ydi’r lle i gadw yn gyfoes hefo technoleg amgen.

Oes ‘na le well yn y byd i fod yn blentyn?

Mae antur newydd rownd bob cornel ac amgylchedd diogel i ddysgu, chwarae, perfformio ac ymchwilio. Mae ein darpariaeth i blant wedi ei gymeradwyo gan Festival Kidz a cylchgrawn Juno a rydyn ni’n falch iawn i ddweud bod rhaglen 2019 yn byrstio hefo fwy o weithgareddau, fwy o perfformiadau a fwy o hwyl na byth bythoedd!

Canu, creu gwisgoedd ffansi, hwla hŵpio, yoga i blant a fwy yn y Little Big Top, chwarae flêr (sori Mam a Dad!) pwll tywod a gweithgareddau i deuleuoedd hefo rhai bychain, sgiliau syrcas, trampolinio, golf gwirion, gweithdai dawnsio a perfformiadau i’r rhai sydd ar wib drwy’r dydd – yn fyr, mae ddigonedd i ddiddori plant o bob oedran.

I’r arddegwyr mae papell y Wye Circus CIC. Lle unigryw i hongian allan heb oedolion na phlant bach yn mwydro!  Yma ceir gweithdai a sesiynau rhannu sgiliau, sofas cyffyrddys, gitârs i chwarae, henna, rig band llawn – o ie, mae gennyn ni ddigon i’ch meddianu am ar ŵyl cyfan. Mae popeth am ddim, felly dowch i fewn i ddweud helo!

ardal grefftau

Yn yr Ardal Crefft ceir y siawns i ddysgu crefftau a sgiliau traddodiadol gydag amryw o arbenigwyr eu feysydd.  Gall treulio’r dyddiau yma yn darganfod technegau ymarfero . Gofaint haearn a copr, cerflunio pren a cerrig, crochenwaith, gweu basgedi helyg – rhai esiampl o’r fath o weithdy sydd ar gael yn yr ardal yma.  Mae hefyd rhaglen o weithdai am ddim yn rhedeg trwy gydol yr ŵyl sydd yn addas at bob oed.

Y Maes Ymgyrchoedd a’r Fforwm ydi canolbarth gwleidyddiaeth yn y Green Gathering – yn cysylltu’r gweithredydd a’r academydd, yn codi ymwybyddiaeth am gyfiawnder cymdeithasol ac yr amgylchedd. Cynhelir gweithdai a sgyrsiau bob diwrnod gydag amserlen llawn.

Yn y Cymuned Paramaeth  mae criw o gerddwyr, adeiladwyr, cogyddion, celfyddydwyr ac athrawon wedi cydweithio i greu ardal gynhwysol ac addysgiadol yn llawn offer ac adnoddau yn gysylltiedig â bywoliaethau cynaliadwy

iechyd ac iachâd

O fewn tawelwch yr Ardal Iechydwriaeth ceir siawns i fynychu gwasanaethau amryw o therapyddion ac ymarferwyr cymwys am ostyngiad enfawr. Ar gael mae Yoga, Chi Gung, gweithdai Celfyddydau Iechydwriaeth, Tylinwyr, Therapyddion Amgen a llawer fwy.

Mae Ffordd Natur yn eich arwain trwy brofiadau creadigol ac ysbrydol o’r cylch cerrig at lannerch y coetir. Yma mae Voices Of Gaia, pabell sgyrsiau â rhaglen esoteric a ddaearol ar pynciau fel yr hud a’r meddygaeth o pherlysiau, geometreg sanctaidd, canfyddiad a chysylltiad, dewinio a ddoethineb siamaneg.  

Mae Pentref TrAd (Addasiad Trawsnewidiol) yn pentref bychain o tipis ac anheddau eraill effaith isel codwyd o amgylch tân canolog. Man croesawgar i’r rhai chwilgar a creadigol, eco-rhyfelwyr, cydweithredwyr, rhai sy’n chwilio am gymuned, darparwyr llawenydd a’r rhai sydd yn delio a cholled.  Yma cewch straeon, barddoniaeth a chân, ynghyd â chymdeithas o bobl sy’n gweithredu’n ddi-drais dros yr amgylchedd a chyfiawnder fel rhan o’r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid. Yma hefyd cewch wybodaeth am Extinction Rebellion a cwrdd a sawl sy’n weithredu drostynt.

Ymlaciwch yn y Pentref ar y Bryn gyda sawna yn SAMS, ymwelwch a’r crefftwyr yn Woodland Treasures a gwrandewch ar straeon am fywyd gyda cheffyl a throl gan Steve of Britain. A cymerwch seibiant gyda seidr (pam ddim?) tra’n mwynhau yr olygfa dros yr Hafren.

Hel eich boliau gyda stondinau bwyd maethlon a moesegol yna ewch i siopa, yn ein marchnad mae stondinau yn gwerthu amrywiaeth o nwyddau unigryw sy’n bendant i ddenu sylw.